Tynnu lluniau at ddefnydd personol
Mae croeso i dynnu lluniau neu ffilmio at ddefnydd preifat, anfasnachol ar dir y cyngor. Mae hyn yn golygu na ddylid defnyddio unrhyw ffotograffau neu luniau a dynnwyd i ennill arian, hyrwyddo busnes na’u rhoi i lyfrgelloedd neu asiantaethau ffotograffiaeth.
Rhaid cytuno ar fynediad i dynnu lluniau neu wneud ffilmiau at unrhyw ddiben arall ymlaen llaw bob amser.
Ffotograffiaeth a ffilmio proffesiynol ar ein tir
Ni ddylech ymgymryd â ffilmio masnachol na ffotograffiaeth ar ein tir heb gytundeb ysgrifenedig ar waith.
Mae hyn yn cynnwys y fynwent yn Eglwys Sant Tudclud a mynwent Arwelfa.
Mae’r arian a godir yn helpu i gefnogi gwaith y cyngor.
Mae Bro Machno yn lle hyfryd. Bydd unrhyw gwmni sy’n ffilmio cynhyrchiad cyllideb fawr o fewn ardal Bro Machno yn cael gwahoddiad i gyfrannu at arian cymunedol.