Mynd i'r cynnwys

Cyfarfodydd

Cysylltwch â’r cyngor drwy’r clerc (yma)

Cynhelir cyfarfod eithriadol nesaf y Cyngor Cymuned nos Iau, 8 Hydref, am 7.30yh yn rhithwir.

Cynhelir cyfarfod arferol nesaf y Cyngor Cymuned nos Lun 16 Tachwedd, 7.30yh yn Festri Capel Salem, Penmachno
Rhaid cyflwyno eitemau ar gyfer yr agenda erbyn 07 Tachwedd

Mae’r Cyngor yn cyfarfod bob dau fis. Cyhoeddir manylion y dyddiad, yr amser a’r lleoliad ar gyfer y cyfarfod nesaf, ynghyd â’r Agenda ffurfiol, ar y wefan hon ymlaen llaw.

Agenda ar gyfer y cyfarfod rhithwir nesaf:

  1. Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb
  2. Datganiad o Fuddiant – Cod Ymddygiad
  3. Cais Cynllunio: NP4/29/161A – I ystyried ac ymateb i’r cais cynllunio: Adeiladu gweithdy & storfa – Mela Uchaf, Penmachno. LL24 0PU

​Mynychu cyfarfodydd a Chymryd Rhan​

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu cyfarfodydd y Cyngor. Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gall trigolion fynychu’n bersonol yn y lleoliad neu o bell. Cysylltwch â’r Clerc ymlaen llaw fel y gall hwyluso presenoldeb.

Bydd y person sy’n llywyddu’r cyfarfod yn rhoi cyfle rhesymol i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol wneud sylwadau am unrhyw fusnes i’w drafod yn y cyfarfod. Sylwch nad yw hyn yn caniatáu cyfranogiad yn y drafodaeth ffurfiol rhwng cynghorwyr. Gall y Cyngor hefyd benderfynu gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitemau penodol o natur gyfrinachol neu sensitif.

Nodwch y gall Cyngor Cymuned Bro Machno recordio sain neu ffilmio’r cyfarfod hwn. Gan y gellir cynnwys eich delwedd yn y recordiad, trwy fynd i mewn i’r ystafell gyfarfod rydych yn cydsynio i gael ei ffilmio ac i ddefnydd posibl o’r delweddau hynny ac unrhyw recordiadau sain. Cysylltwch â’r Clerc i gael mynediad o bell i gyfarfodydd.