Mae trawiad ar y galon yn argyfwng meddygol a dylech ffonio 999 am ambiwlans ar unwaith
Mae’r Cyngor Cymuned yn gofalu am y pedwar diffibriliwr ym Mro Machno trwy eu gwirio’n rheolaidd – ac ar ôl pob defnydd. Rydym yn gwirio’r batris a’r padiau ac yn sicrhau bod y gwasanaeth ambiwlans yn gwybod bod y diffibrilwyr yn barod ar gyfer argyfwng. Yn 2025, cawsom filoedd o bunnoedd mewn cyllid gan Gronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog ar gyfer dau ddiffibriliwr a blychau newydd yng Nghwm Penmachno.
Ydych chi’n gwybod ble mae eich diffibriliwr agosaf?
Cwm Penmachno
- Y tu allan i Ganolfan Gymunedol Shiloh LL24 0RH
- ///goleufa.wythnosau.hwyrach
- Wrth ochr y golau stryd wrth y lloches bws wrth fynedfa’r chwarel LL24 0RS
- ///stribedyn.parciaf.morlan
Penmachno
- Y tu allan i siop y pentref, Londis Penmachno LL24 0UE
- ///ciciwn.handlen.gofalaf
- Tu allan i’r ysgol gynradd, Ysgol Penmachno LL24 0PT
- ///cynllunio.sgoria.areithio
- Y tu allan i’r ysgubor isaf, Bythynnod Benar, Penmachno LL24 0PS (ychydig y tu hwnt i ganghen llwybr cyhoeddus 15 / yn hygyrch o’r goedwig)
- ///anghyflawn.anfoneb.ffwdan
Gallwch ddod o hyd i ddiffibrilwyr ledled y wlad a gwirio a ydyn nhw’n barod ar gyfer argyfwng ar wefan Defib Finder.