Mynd i'r cynnwys

Cyfarfodydd

Cysylltwch â’r cyngor drwy’r clerc (yma)

Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail fis. Mae dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod nesaf wedi’i ysgrifennu isod. Cynhelir cyfarfodydd ychwanegol ac is-bwyllgorau yn ôl yr angen.

Mae hawl gan unrhyw aelod o’r cyhoedd i fynychu cyfarfod ond nid oes hawl ganddynt i gyfrannu at y drafodaeth.  Gellir gofyn i’r cyhoedd adael y cyfarfod os bydd rhai materion penodol o natur gyfrinachol dan ystyriaeth.

Cyfarfod nesaf:

Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor Cymuned nos Iau 13 Tach, 7.30 yn Festri Capel Salem, Penmachno

  1. Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb
  2. Datganiad o Fuddiant
  3. Trafod a phenodi contractwr i drwsio wal y fynwent Arwelfa
  4. Y parth terfyn cyflymder 20mya ym Mhenmachno
  5. Materion eraill

Nodwch y gall Cyngor Cymuned Bro Machno recordio sain neu ffilmio’r cyfarfod hwn. Gan y gellir cynnwys eich delwedd yn y recordiad, trwy fynd i mewn i’r ystafell gyfarfod rydych yn cydsynio i gael ei ffilmio ac i ddefnydd posibl o’r delweddau hynny ac unrhyw recordiadau sain.