Mynd i'r cynnwys

Amdanom ni

Mae’r cyngor yn gwasanaethu cymunedau Penmachno a Chwm Penmachno, ardal wledig ym mhen uchaf Dyffryn Conwy lle bu’r diwydiant llechi yn bwysig iawn ar un adeg. 

Yn ôl cyfrifiad 2021, roedd poblogaeth Bro Machno yn 629 – i fyny o 617 yn 2011 ac mae hyn tua thraean o’r hyn oedd y boblogaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cyfrifiad 2021 yn dangos bod bron i 60% o bobl yma yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu yn y Gymraeg. Sefydlwyd Cyngor Plwyf Penmachno yn 1894 ac, yn wahanol i arfer y cyfnod ar gyfer gweithgareddau swyddogol, gweithredodd y cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg o’r dechrau.  Diwygiwyd llywodraeth leol yn 1974 a daeth Cyngor Cymuned Bro Machno i fodolaeth bryd hynny.

Cadeirydd: Eryl Owain

Clerc: Daniel Tomos. Gallwch gysylltu â’r clerc, yma

Ystadegau am Bro Machno

Dyma rai ystadegau diddorol am Fro Machno gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ymddiheuriadau ond gan fod y data yn cael ei ddarparu’n uniongyrchol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid yw’n bosibl darparu cyfieithiad Cymraeg.